English

Yr Hyn Rydym yn ei Gynnig

Rydym yn arbenigo mewn gwaith sydd ar flaen y gad o ran trafnidiaeth gynaliadwy, gan ddefnyddio tîm hynod brofiadol i ddatblygu datrysiadau newydd.  

Ymhlith y mathau o brosiectau rydym yn ymgymryd â nhw mae:  

Ymchwilio i ddatrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy: i nodi arfer da arloesol; i fonitro a gwerthuso effeithiau ymyraethau polisi newydd, ac i ddatblygu opsiynau polisi pellach.

Dadansoddi a chynghori i sicrhau bod polisïau cynllunio’n peri datblygiadau â phatrymau teithio cynaliadwy.

Paratoi cyfarwyddyd arfer gorau cenedlaethol ar bob agwedd ar drafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys dewisiadau craffach, cynllunio teithio a thrafnidiaeth wledig.

Ymchwilio i effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol trafnidiaeth.

Datblygu Rhaglenni Dewisiadau Craffach i newid ymddygiad teithio.

Datblygu cynlluniau teithio i’r gweithle, cynlluniau teithio trigolion a chynlluniau teithio ymwelwyr.

Ymgyrchoedd hyrwyddo a gwybodaeth i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Seminarau hyfforddi proffesiynol ar roi dewisiadau craffach ar waith, gan gynnwys mesurau i annog teithio egnïol (cerdded a seiclo).