Ein Tîm
Mae ein tîm yn arbenigo mewn dadansoddi polisi trafnidiaeth yn strategol, ac mae’n gwybod am sut i greu a hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy yn ymarferol. Mae ein partneriaethau ag ymgynghorwyr annibynnol a sefydliadau academaidd yn ein galluogi i ddwyn tîm ynghyd sydd â phrofiad penodol i fynd i’r afael â’ch prosiect.
Lynn Sloman, Cyfarwyddwr
Sefydlodd Lynn Drafnidiaeth er Bywyd o Safon yn 2002. Mae hi hefyd yn uwch gydymaith ymchwil anrhydeddus gyda’r Ganolfan Astudiaethau Trafnidiaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Ers 2002 mae hi hefyd wedi gweithio fel aelod o fwrdd Cycling England, sef y corff a sefydlwyd gan yr Adran Drafnidiaeth i gynyddu lefelau seiclo; Is-gadeirydd y Comisiwn Trafnidiaeth Integredig; a Chynghorydd Arbennig i Fwrdd Trafnidiaeth Llundain. Mae ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys astudiaethau’r Adran Drafnidiaeth, sef Smarter Choices (2004) a Sustainable Travel Towns (2010). Bu gynt yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Transport 2000, sef Campaign for Better Transport bellach. Mae ganddi 18 mlynedd o brofiad ym maes trafnidiaeth.
Ian Taylor, Cyfarwyddwr
Ymunodd Ian â Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon fel partner yn 2003. Mae ei waith diweddar yn cynnwys yr adroddiadau Thriving Cities a Masterplanning Checklist ar sut i integreiddio gwaith cynllunio a thrafnidiaeth i sicrhau bod pobl yn defnyddio moddau teithio cynaliadwy i’r eithaf. Mae hefyd wedi arwain prosiectau’n ymwneud â chyflawni system drafnidiaeth sy’n gymdeithasol deg yn wyneb prinder olew, effeithiau sŵn traffig gwledig ac ysgrifennu The Essential Guide to Travel Planning ar ran yr Adran Drafnidiaeth. Bu gynt yn rheolwr y gwasanaethau ymgynghorol amgylcheddol ar gyfer y Ganolfan Dechnoleg Amgen ac mae wedi gweithio yn y gorffennol fel Cynghorydd Gwleidyddol Gwyddonol ar gyfer Greenpeace ac fel ymgyrchwr dros Oxfam.
Carey Newson, Cydymaith

Arbenigwr newid ymddygiad yw Carey Newson, a bu’n chwarae rôl ddiffiniol wrth ddatblygu gwaith cynllunio teithio’r DU. Gan dynnu ar brofiad rhyngwladol a gweithio’n agos gyda rhwydweithiau o ymarferwyr arloesol y DU, bu’n ymchwilio i’r canllaw cenedlaethol cynhwysfawr cyntaf ar gynllunio teithio ar gyfer y gweithle, yr ysgol, hamdden a phreswylfeydd. Mae’n seicolegydd amgylcheddol ac yn tynnu ar ddamcaniaeth seicolegol a’i gwybodaeth ehangach o fentrau’r DU, er mwyn cynghori ar ymyriadau newid ymddygiad. Bu Carey gynt yn gyfarwyddwr cynorthwyol Transport 2000, sef Campaign for Better Transport bellach. Mae ganddi fwy na degawd o brofiad ym maes newid ymddygiad amgylcheddol.
Jillian Anable, Cydymaith
Mae Jillian wedi bod yn gydymaith er 2008, a chyn hynny bu’n gweithio ar brosiectau ar y cyd â Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon yn ei chyn rôl fel Cydymaith Ymchwil yn y Ganolfan Polisi Trafnidiaeth, Prifysgol Robert Gordon. Er 2008, mae wedi bod yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberdeen. Mae Jillian wedi datblygu teipoleg arloesol o seicoleg ac arferion modurwyr, ac ymysg diddordebau ymchwil eang, mae’n ddiweddar wedi
Beth Hiblin, Cydymaith

Mae Beth yn cynnig profiad helaeth o agweddau ymarferol ar newid modd pobl o deithio, yn ogystal â’r syniadau bywiog a’r egni sydd eu hangen i wneud i ymyriadau newid ymddygiad lwyddo. Ymhlith prosiectau diweddar y bu’n eu rheoli mae ysgrifennu Making a Cycling Town, sef adolygiad Cycling England o chwe rhaglen wreiddiol Trefi Seiclo, a datblygu strategaeth newid ymddygiad teithio Manceinion Fawr. Cyn hyn, bu Beth yn rheoli Travelchoice, sef prosiect Tref Arddangos Teithio Cynaliadwy Peterborough, lle roedd yn gyfrifol am gyflenwi’r rhaglen gyfan o fesurau dewisiadau craffach. Boed yn gweithio ar raglen ardal-eang, cynllun teithio sy’n benodol i safle neu fenter Dewisiadau Craffach benodol, cryfder Beth yw ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol i feithrin newid tymor hir mewn ymddygiad teithio.
Phil Goodwin, Cydymaith
.jpg)
Phil yw’r Athro Emeritws yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Roedd gynt yn Gyfarwyddwr y grwpiau ymchwil i drafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Choleg Prifysgol Llundain, a bu’n arwain rhaglen deng mlynedd ar ‘Newid Ymddygiad Teithio’ y ganolfan ragoriaeth ddynodedig a dderbyniodd gymorth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Bu’n gynlluniwr trafnidiaeth yng Nghyngor Llundain Fwyaf, yn Gyfarwyddwr Anweithredol Porthladd Dover, ac yn gynghorydd i asiantaethau llywodraeth leol, genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y Pwyllgor Ymgynghorol Sefydlog ar Arfarnu Cefnffyrdd (SACTRA) 1990-1999 a'r panel ymgynghorol ar Bapur Gwyn Trafnidiaeth 1998 y bu’n ei gadeirio. Bu Phil yn Brif Olygydd dau gyfnodolyn academaidd cenedlaethol blaenllaw: Transport Policy, a sefydlwyd ganddo, a Transportation Research, Policy and Practice.