English

Gwaith Ymarferol i Gyflawni Teithio Cynaliadwy

Rydym yn mynd ati i gyflawni prosiectau ymarferol gydag awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol ac eraill i gyflawni teithio mwy cynaliadwy.

Ymhlith enghreifftiau o’n gwaith diweddar mae:  

Cynllunio Teithio

Prosiect ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynyddu nifer yr ymwelwyr â'u heiddo sy'n teithio mewn modd cynaliadwy.

Cynllun teithio i’r gweithle ar gyfer Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys ei bedair prif swyddfa mewn sir wledig.

Cynlluniau teithio i’r gweithle ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn saith swyddfa ledled Cymru.

Cynllun teithio ymwelwyr ar gyfer canolfan ymwelwyr amgylcheddol arfaethedig yn Welsh Harp, Gogledd-Orllewin Llundain.

Dyfi Valley Travel Guide coverMarchnata Teithio Cynaliadwy

Cynnyrch trafnidiaeth a thwristiaeth gynaliadwy, sef Arweiniad Trafnidiaeth Dyfi, ar gyfer sefydliad gwirfoddol Canolbarth Cymru, Ecodyfi.

Gweithio gydag Arriva a Chynghorau Gwynedd, Powys a Cheredigion i ddatblygu deunydd marchnata gwasanaethau bws sy’n benodol iddyn nhw.

Annog Teithio Egnïol

Gweithio gyda Cycling England i sefydlu’r prosiect Trefi Arddangos Seiclo, ac i gefnogi defnyddio mesurau craff i gynyddu seiclo.

Hwyluso rhaglen genedlaethol yr Adran Drafnidiaeth o seminarau cerdded sy’n cynnwys mwy na 1000 o bobl o awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau gofal sylfaenol a sefydliadau gwirfoddol.

Adolygu cynlluniau creu parthau cerddwyr y DU a’u heffaith ar fywiogrwydd economaidd ar ran Cyngor Dinas Caerwysg.

Ymgysylltiad Cymunedol

Ymgynghoriad ac asesiad o anghenion trafnidiaeth ar ran Cyngor Sir Powys / Cymunedau yn Gyntaf.

Lawrlwytho: Teithio o Amgylch Bro Ddyfi [pdf 718kb]

Prif Ffrydio Dewisiadau Craffach

Cynghori'r Llywodraeth Iwerddon ar sefydlu ardaloedd teithio craffach i'w gael eu ariannu ar gyfer teithio cynaliadwy.

Cynghori tîm Cronfa Arloesedd Trafnidiaeth (TIF) Gorllewin Canolbarth Lloegr ar y rhan y gallai mesurau craff ei chwarae yn y rhanbarth.

Arfarnu’r strategaeth cludo nwyddau ar gyfer Gogledd-Orllewin Lloegr ar ran NW Transport Roundtable (sef rhwydwaith o fudiadau gwirfoddol amgylcheddol a chymdeithasol).