Mae Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn datblygu datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy
Ymagwedd radical ond pragmatig i fynd i'r afael a'r problemau gweithredol dwfn, costau ychwanegol ac anghyfleustra teithio a achoswyd gan y darnio a phreifateiddio o system reilffordd Prydain
Cliciwch llun i lawrlwytho adroddiad (Saesneg yn unig) [pdf 1.7 Mb]
Dulliau amgen deniadol yn hytrach na defnyddio’r car
Cynllunio sy'n lleihau'r angen am deithio yn y car yn y lle cyntaf
Hyrwyddo dewisiadau teithio craffach
Mae’r arferion hyn yn hanfodol os ydym am newid ein patrymau trafnidiaeth i greu llai o garbon, er mwyn gallu sefydlogi’r hinsawdd ac er mwyn i’n system drafnidiaeth allu ymdopi wrth i olew ddod yn fwyfwy prin.
Mae y car yn ddatrysiad trafnidiaeth sydd bob amser yn barod i unigolyn ei ddefnyddio ond, mae y car hefyd yn ‘fagl gymdeithasol’: os bydd llawer o unigolion yn ei ddefnyddio’n ddiymatal, gall hyn arwain at ddirywiad cymdeithasol ac amgylcheddol nad oes unrhyw un am ei weld.
Mae angen mesurau cynllunio a thrafnidiaeth clyfar i’n diddyfnu oddi wrth ein ceir. Mae Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ar flaen y gad o ran datblygu corff o dystiolaeth a phrofiad sy’n dangos sut gellir gwneud hyn.
Transport isn’t working. Lynn Sloman's book Car Sick shows why, and sets out clearly what the answers are. A must-read for everyone interested in transport.
Stephen Joseph, Cyfarwyddwr Gweithredol, Campaign for Better Transport
Mae Trafnidiaeth er Bywyd o Safon yn seiliedig ar egwyddorion moesegol sy’n tanategu ein dewis o waith a'r ffordd rydym yn ymroi iddo.
